Afal Enlli
Mae gan Enlli ei hafal unigryw ei hun sydd nawr ar gael i chi ei phrynu a'i thyfu yn eich gardd.
Yn gynnar ym mis Medi 2000, roedd un o’r gwylwyr adar a oedd yn aros yng Nghristin yn defnyddio afalau i ddenu adar. Yn dilyn sgwrs rhwng yr adarydd ac ymwelydd arall, Mr Ian Sturrock, gwnaed darganfyddiad cyffrous.
Deallodd Mr Sturrock, arbenigwr ar goed ffrwythau, bod yr afalau yn dod o goeden gnotiog a cham ar ochr ddeheuol Plas Bach. Er bod trigolion yr ynys yn cadarnhau bod cenedlaethau o ynyswyr wedi mwynhau’r afalau hyn, nid oedd neb yn gwybod pa fath o afalau oeddynt. Roedd yn eithaf posib mai’r ffrwyth pinc gydag arogl lemwn a blas amheuthun oedd yr unig oroeswyr o berllan a oedd yn cael ei meithrin ar y safle gan fynaich dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl.
Sylweddolodd Mr Sturrock bod yr afal yn un anghyffredin.“Doeddwn i ddim yn ei hadnabod, felly mi es i â hi at arbenigwyr ar wahanol afalau Prydain – Brogdale Horticultural Trust yng Nghaint”, meddai Mr Sturrock.
Yno archwiliwyd yr afalau gan Dr Joan Morgan, un o brif arbenigwyr afalau Prydain, a’i datganiad hi oedd mai dyma afal prinnaf y byd. Fe’i disgrifiodd fel afal gyda streipiau pinc amlwg dros hufen, yn wrymiog a gyda chorun uchel.
Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth ofyn i Mr Sturrock gymryd toriadau o’r goeden y gwanwyn canlynol i’n galluogi i dyfu mwy o’r coed unigryw hyn.