Ar gael
Edrychwch ar yr wybodaeth isod i weld pa dai sydd ar gael.
Mae'n haws darllen y dudalen yma ar sgrîn fawr.
Os hoffech logi tÅ·, yna anfonwch neges drwy'r ffurflen archebu. Mae'r swyddfa yn agored yn rhan amser, byddwn ymateb cyn gynted â phosib.
​
Gwyliau Byr: Dim ond nifer cyfyngedig o wyliau byr fydd yn cael eu cynnig. Os dymunwch archebu gwyliau byr, dewiswch 3 neu 4 noson (nid yw'n bosib aros lla na 3 noson) gan ddechrau ar ddydd Sadwrn a diweddu ganol wythnos, neu gyrraedd canol wythnos, gan adael ar ddydd Sadwrn. Gellir rhoi pris gwyliau byr ar gais. Dim ond prisiau gwyliau wythnos o hyd a restrir ar ein gwefan.
​
Gall tywydd gwael gael mwy o effaith ar wyliau byr, felly er mwyn osgoi unrhyw siom, ni fyddwn yn derbyn archebion gwyliau byr ar gyfer Ebrill na o ganol Medi ymlaen.
​
Niferoed Mewn Llety - Ni chaiff y nifer yn aros mewn llety, mewn unrhyw amgylchiadau, fod yn fwy na'r uchafswm a nodir ar ein gwefan. Nid yw babanod o dan 2 oed sy'n cysgu mewn crud yn cael eu cyfrif yn yr uchafswm (ac eithrio Carreg Bach, sy'n anaddas i fabanod). Rydym â’r hawl i wrthod mynediad os na ddilynir yr amod hwn. Dim ond y rhai a restrir ar y ffurflen archebu all aros yn y llety.
​
Dyma ddolen i galendr cyfnod y lleuad, os hoffech ymweld ar adeg benodol.