top of page

Byd Natur

Mae Enlli yn enwog am ei bywyd gwyllt ac yn lle perffaith i weld brain coesgoch, morloi llwyd, palod ac adar drycin Manaw. Mae 310 o rywogaethau o adar wedi eu cofnodi ar yr ynys.

Mae Enlli yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'n safle o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol oherwydd ei fywyd gwyllt. Mae’r amrywiaeth eang o ddiddordeb arbennig yn cynnwys adar, planhigion blodeuol prin, cennau, llysiau’r afu a mwsoglau, glaswelltir arfordirol a rhostir, silffoedd clogwyni’r môr a bywyd gwyllt y môr.

 

Mae hyn yn peri bod cyfrifoldeb ar Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, fel perchnogion, a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel corff cynghori’r llywodraeth ar gadwraeth bywyd gwyllt, i sicrhau bod bywyd gwyllt yr ynys yn cael ei warchod ar gyfer y dyfodol. Mae nodweddion pwysig naturiol yr ynys yn cael eu rheoli trwy waith y fferm.

Bywyd Môr

 

Gwelir hyd at 200 o forloi llwyd yr Iwerydd ym mannau arfordirol creigiol yr ynys. Mae nifer fach ohonynt yn magu ar Enlli bob blwyddyn.

Mae’r moroedd o amgylch yr ynys, gyda’u fforestydd o fôr-wiail, yn llawn o fywyd gwyllt. Yn y pyllau creigiog gwelir buchod coch, crancod a physgod bychan ac yn y dyfroedd dyfnach mae bwydwyr hidlo megis sbyngau a chwistrelli môr yn gorchuddio'r creigiau. Mae un rhywogaeth oddi ar y lan, yr anemoni môr melyn, yn fwy cyffredin ym Môr y Canoldir. Yn aml gwelir dolffiniaid Risso a llamidyddion yn y dyfroedd oddi ar yr ynys.

Planhigion

Ar hyd y cyrion arfordirol, mae blodau seren y gwanwyn yn ffurfio gorchudd glas yn y gwanwyn. Wedi iddyn nhw flodeuo daw twmpathau trwchus o glustog Fair a chlystyrau o deim ac, ymhellach ymlaen, clychau’r grug a grug y mêl. Ymysg y planhigion mwyaf prin mae meillionen y gorllewin a thafod y neidr bach. Y planhigion mwyaf nodedig yw’r cennau, gydag amrywiaeth o fwy na 350 rhywogaeth yn tyfu ar Enlli. 

Gwylfa Adar a Maes Enlli

Sefydlwyd Gwylfa Adar a Maes Ynys Enlli ym 1953. Saif yr ynys ar lwybrau mudo adar yn y gwanwyn a'r hydref  ac mae hi'n gartref i frain goesgoch trawiadol a phiod môr;  gellir hefyd gweld crëyr glas, hebog tramor, tinwen y garn, telorion a'r dylluan fach, yn ogystal ag adar môr megis yr hugan, y llurs a'r fulfran werdd. Yn y blynyddoedd diweddar mae palod wedi do i nythu ar yr ynys hefyd. Mae'r ynys yn gysylltiedig yn bennaf, fodd bynnag, gyda'r aderyn drycin Manaw - mae nythfa o 16,000 i 20,000 o barau ar yr ynys.

Am fwy o wybodaeth am waith Gwylfa Adar a Maes Enlli ewch i'w gwefan

Ffermio ar Enlli

Ar ôl sawl blwyddyn o absenoldeb, cafodd gwartheg eu hailgyflwyno ar yr ynys yn 2008 i helpu i bori’r cynefinoedd rhostir a gwlyptir. Mae’r system bori hon yn rhan o system ffermio holistaidd sy’n gweithio’n sensitif o fewn ecosystem fregus yr ynys ac sy’n ychwanegu at ei bioamrywiaeth. Mantais arall o gael gwartheg yw bod y chwilod arbennig yn eu tail yn ffynhonnell fwyd bwysig gwbl angenrheidiol i frain coesgoch ifanc pan fyddant yn magu nerth ar gyfer y daith i’w mannau gaeafu ar y tir mawr.

 

Mae’r ffermwr Gareth Roberts a Steve a Jo Porter sy’n byw ar yr ynys yn gweithio’n agos â Cyfoeth Naturiol Cymru, RSPB ac Ymddiriedolaeth Ynys Enlli i reoli’r fferm ar gyfer bywyd gwyllt sy’n gwneud yr ynys yn un mor arbennig. Mae Arsyllfa Adar a Maes Ynys Enlli hefyd yn helpu drwy fonitro effaith y system ffermio ar yr adar sy’n byw ar yr ynys.

bottom of page