
Ysbrydolrwydd
Gall ymwelwyr â'r ynys weld olion gwasgarog yr abaty Awstinaidd o'r drydedd ganrif ar ddeg a godwyd ar sylfeini'r hen sefydliad Celtaidd o'r chweched ganrif. Mae'r tŵr di-do wedi'i addasu ar gyfer grwpiau bach sydd eisiau addoli'n anffurfiol yn yr awyr agored.
​
Mae un o'r croesau Celtaidd gerllaw yn coffáu'r gorffennol crefyddol a'r ugain mil o seintiau sydd, yn ôl y sôn, wedi'u claddu yma.
​
Codwyd capel ar yr ynys yn 1875 ac mae'r adeilad yn agored i bobl ei ddefnyddio ar gyfer addoli a myfyrdod.
​
Caiff llawer o ymwelwyr brofiadau ysbrydol a heddychlon ar yr ynys, yn bell o brysurdeb a sŵn y tir mawr, boed yma ar bererindod neu'n ymweld am resymau hollol wahanol.

Pererindod
Ysgrifennodd R.S. Thomas yn ei gerdd ‘‘Pilgrimages’ bod Enlli ‘an island there is no going / to but in a small boat the way / the saints went’.
​
Mae teithwyr i Enlli yn dilyn llwybrau saint dirifedi sy wedi teithio i’r ynys dros y canrifoedd. Mae wedi bod yn lle o bererindod ers y canoloesoedd ac fe ddeil i ddenu pererinion o dros y byd i gyd.
Enlli yw terfyn Taith Pererin Gogledd Cymru ac yn gam arwyddocaol ymlaen i lawer ar eu taith ysbrydol (fel unigolion). I’r rheiny sy’n ymweld am y dydd yn unig, mae llwybr byr i’r pererin a gellir ei ddilyn fel modd o archwilio’r ynys gan gymryd ysbaid i fyfyrio ar safleoedd symbolaidd fel y goleudy, adfeilion yr abaty a’r ffynnon sanctaidd. I’r rheiny sydd am aros yn hirach, i oedi ar daith bywyd a dysgu ‘dawns ddigymell gras’, mae croeso i ymuno yn anffurfiol yng ‘ngweddïau’r pererin’ a gynhelir yn y betws ar nosweithiau Iau a boreau Sul.
Encil
Mae Ynys Enlli yn un o’r ‘mannau cyfrin’ hynny ble mae’n bosib iawn teimlo agosatrwydd tragwyddoldeb. Mae wedi dod yn lleoliad arbennig am adfywhad ysbrydol, wrth dreulio ychydig ddyddiau o fyfyrdod personol neu trwy gymryd rhan mewn encil ffurfiol.
Mae naw tÅ· hunan-arlwyo i’w rhentu rhwng mis Mawrth a mis Hydref, un tyddyn i ddau berson neu sawl tÅ· mawr addas i grwpiau sy’n dymuno cynnal encil gyda’u gilydd. Am fwy o wybodaeth am llety ewch yma.
Mae Enlli yn fan lle gellir synhwyro, i fenthyca geiriau T.S. Eliot’ ‘prayer has been valid’ ac fe barheir i gynnal gwasnaethau rheolaidd byr yn y capel a’r betws, yn ogystal a chynnig cyfleoedd niferus am weddio preifat ymysg natur hardd yr ynys. Wrth encilio o bwysau a dwndwr y byd daw’r ymwelydd i ymdeimlo’r rhyddid i weddio, darllen, myfyrio, trafod, cerdded, ysgrifennu, darlunio, canu, archwilio, mewn geiriau eraill, gwneud beth sy’n ofynol i adfywhau’r ysbryd. Dyma rai adnoddau y gellir eu defnyddio fel ysbrydoliaeth i’r rheiny sydd am geisio adnewyddiad ar Enlli.

Caplaniaeth
Fel arfer yn ystod misoedd yr haf mae caplan ar yr ynys, fel rhan o’r cynllun eciwmenaidd a gydlynir gan Bwyllgor Ysbrydolrwydd Ynys Enlli. Y caplan fydd yn trefnu a hysbysebu’r gwasanaethau a gynhelir yn y capel a’r betws, hefyd bydd ar gael i sgwrsio’n dawel gydag ymwelwyr dydd ag wythnos. Mae hyn yn wasanaeth gwirfoddol pwysig ac yn wobr amhrisiadwy i’r sawl sy’n ei gynnal. I unrhyw un sy’n ystyried y swydd, os yw’n briodol i chi ar ôl darllen y swydd ddisgrifiad, llenwch a dychwelwch y ffurflen gais.

Pythenfos myfyriol
Unwaith eto, mae’r Pwyllgor Ysbrydolrwydd yn cynnig pythefnos ar yr Ynys tuag at ddiwedd y tymor i rywun a fyddai’n hoffi treulio’r amser mewn gweddi Myfyriol. Ni ddisgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â unrhyw ddyletswyddau caplaniaeth, ond yn hytrach i dreulio’r amser yn bennaf ar ei ben ei hun mewn tawelwch, gan gadw’r Ynys mewn gweddi ac ymgysylltu â’i sawl lefel o ysbrydoldeb. Ar ôl hynny, mae’r Pwyllgor Ysbrydolrwydd yn hoffi derbyn adroddiad o’r pythefnos. Yr wythnosau a neilltuwyd ar gyfer y pythefnos yn 2025 yw Medi 27 hyd at Hydref 11. Os hoffech ymholi ymhellach am y posibilrwydd hwn, anfonwch e-bost at Adrian Botwright

Mae Ynys Enlli a thraddodiad hir a dwfn o hanes ysbrydol. Roedd mynachod yn byw a gweddïo ar yr ynys am dros fil o flynyddoedd, ac yn fwy diweddar bu’r fangre hynod hon yn bwysig i lawer o bobl dwfn eu ffydd