top of page

Enwebeion Cyngor 2025

Gwelwch isod wybodaeth am y rhai wedi eu henwebu yn 2025

Greta Hughes

"Mae gennyf gysylltiad cryf a thrwyadl gydag Enlli, gan imi groesi’r Swnt am y tro cyntaf pan oeddwn i’n 15 oed gyda’m tad yn ei gwch traddodiadol 14 troedfedd Aberdaron. Dychwelais 9 mlynedd yn ddiweddarach fel Swyddog Pysgodfeydd lleol ac am lawer o’m gyrfa o fewn gorfodi a rheoli pysgodfeydd dros y 42 mlynedd nesaf. Roeddwn i yn gyfrifol am ddiogelu’r pysgodfeydd o gwmpas Enlli, gan weithio o RIBs a Llongau Patrôl Pysgodfeydd mwy. 

 

Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydw i wedi treulio wythnos bob blwyddyn ar Enlli ac rwy’n gobeithio parhau i wneud hynny. Mae’r amodau byw sylfaenol, sydd gymaint yn wahanol i'r bywydau modern llawn prysurdeb dydd i ddydd, yn cynnig cyfle angenrheidiol o saib, ac yn fy ngludo’n ôl i’r bywyd syml a fu ar LlÅ·n yn fy ieuenctid. Mae hefyd agwedd ysbrydol i Enlli, gan ei fod yn pontio’r ddwy lefel o’n bodolaeth bresennol gyda’r anhysbys, ac rwyf wedi teimlo ei bwerau iachau ar ôl marwolaeth fy ngŵr ddwy flynedd yn ôl. 

 

Felly, hoffwn ddod yn Ymddiriedolwr gyda’r gobaith y gallwn gyfrannu mewn ffordd fach at waith yr Ymddiriedolaeth fel y gall yr ynys weithgar unigryw hon barhau i ffynnu, gan ganiatáu i eraill elwa, fel yr wyf i, o’u hymweliadau."

Menna Jones

"Wyddwn i ddim  am Enlli tra’n tyfu fyny yng Ngheredigion a chefais mo’r cyfle i ddarganfod yr Ynys tra’n blentyn. Ac felly mae rhin a rhyfeddodau’r Ynys wedi eu cyflwyno i mi fesul dipyn ar hyd y degawdau diwethaf wedi symud i’r gogledd.  Mae gwybod bod Enlli yna yn hollbwysig gan ei bod yn cynrychioli yr hyn sy’n dda am Gymru - ein cymunedau a’r amgylchedd leol, ein treftadaeth byw, yr iaith Gymraeg a’n etifeddiaeth. Mae’n anodd  egluro pam mae rhywun iso cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy ynys fach ar gyrion Pen Llyn – gallaf ddimond cadarnhau ei bod yn ddyletswydd arnom i warchod, datblygu a charu cymuned sy’n crisialu’r soniaredd a berthyn i Gymru, ac i’r Cymry.

​

Treuliais y 40 mlynedd diwethaf yn hyrwyddo a datblygu gwasanaethau cymunedol, yn ymdrechu i drawsnewid dyheadau a ffyniant pobl a chymunedau - rhai daearyddol a chymunedau o ddiddordeb. Gobeithaf ddefnyddio’r profiad yna i fuddsoddi yn Enlli er llesiant yr Ynys a’i phobl, cenedlaethau’r dyfodol, yr ecoleg a’r treftadaeth."

​

Bu Menna yn Rheolwr Datblygu yn yr Ymddiriedolaeth yn flaenorol

Siân Thomas

"Mae Ynys Enlli wedi bod yn rhan integredig o’m magwraeth, ac byddai’n fraint gennyf gynnig fy nghefnogaeth i’r Ymddiriedolaeth wrth geisio sicrhau dyfodol yr Ynys. Rwyf wedi fy magu ym Mhen Llyn ac yn parhau i fyw yno gyda’m gwr a thri o blant ifanc. Rwyf wedi gwario cryn amser ar yr Ynys dros y blynyddoedd ac yn aros yn rheolaidd gyda’r plant.


Mae’r Ynys yn unigryw ac rwy’n gwerthfawrogi mor bwysig yw gwarchod ei buddiannau’n ofalus. Rwy’n obeithiol gall fy mhrofiadau tu hwnt i’r Ynys fod yn ddefnyddiol, e.e fy ngradd yn Y Gyfraith a’m gradd meistri mewn Rheoli Eiddo Masnachol, a'r sgiliau dwi wedi’u meithrin fel Syrfewr Siartedig wrth reoli stad y Cyngor lleol. Rwyf wedi rheoli Becws am gyfnod, gan gynnwys rheoli gweithlu ac rwyf bellach yn gweithio yn y maes Gofal, yn Comisiynu a rheoli Contractau. Byddai’n bleser gennyf ymuno fel Ymddiriedolwr i gynnig fy nghefnogaeth."

Robert Townsend

"Am bron 30 mlynedd, rwyf wedi arwain plwyfi mawr o nifer o eglwysi, lle roeddwn i'n gyfrifol am oruchwylio'r weinidogaeth, y cyllid a'r gwirfoddolwyr. Rwyf bellach yn Ymddiriedolwr Esgobaeth Bangor ac Eglwys Gadeiriol Bangor ac rwyf yn rhan o Dîm Rheoli Uwch Esgobaeth Bangor.  

 

O 2017 hyd at 2022, cefais fy mhenodi i Gyngor y Gweithlu Addysg gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru.  

Rydw i wedi bod yn Ymddiriedolwr i Ynys Enlli yn y gorffennol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Ysbrydolrwydd, ac rwyf yn aelod gwirfoddol wedi’i hyfforddi’n llawn o griw cwch bad achub RNLI Cricieth. 

 

Mae Enlli yn un o’m hoff lefydd. Bu'n lle ar gyfer gwyliau teulu a chyfnodau arbennig iawn. Bu’n fraint i mi fod yn Ymddiriedolwr o’r blaen a hoffwn gael y cyfle i fod yn Ymddiriedolwr unwaith eto. Rwyf yn angerddol am ddatblygu cymuned hunangynhaliol reolaidd ar Enlli, i eistedd ochr yn ochr ag ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth.  

 

Mae Enlli yn le o ddistawrwydd, syfrdandod, myfyrio a hwyl, sydd angen cymuned trwy’r flwyddyn. Hoffwn fod yn rhan o Gyngor yr Ymddiriedolaeth a gweithio tuag at y nod hwn."

Membership

 

 

Support the work of the Bardsey Island Trust by joining as a member and being part of the future of the island.  

Volunteer

 

 

Join our team of committed volunteers and experience working on a remote welsh island.

Donate

 

 

Donate to the Bardsey Island Trust to support the vital work of preserving and protecting the future of Bardsey.

Rhif ffon
07904265604
Phone number
07904265604

Rhif Elusen 507153

Charity Number 507153

​

Polisi Preifatrwydd / Privacy Policy

Dilynwch ni
Follow us
  • White Instagram Icon
  • White Facebook Icon

© 2025 Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

© 2025 Bardsey Island Trust

 

Gyda diolch i Ben Porter, Steve Porter a BESIDE am yr hawl i ddefnyddio eu luniau.

​

Llun o'r awyr gan Myles Jenks

Llun astro gan Steve Porter

With thanks to Ben Porter Wildlife Photography, Steve Porter and BESIDE for kind use of images.

 

Aerial image by Myles Jenks

Astro image by Steve Porter

bottom of page