top of page

Hanes Cynnar

Mae Enlli yn nodedig fel cyrchfan pererinion ers dyddiau cynnar Cristnogaeth, ond mae olion aneddiadau ar yr ynys yn dyddio o gyfnod cyn Crist.

Olion Cynharaf

Yr olion cyntaf o bresenoldeb dyn ar Ynys Enlli yw darnau o gallestr wedi’u trin a darganfyddwyd yma ac acw ar yr arfordir gorllewinol ar lethrau gorllewinol y mynydd, yn ôl pob tebyg o’r ail fileniwm (2,000 – 1,000) C.C. Mae hyn felly’n brawf fod yr ynys wedi ei phoblogi am o leiaf bedair mil o flynyddoedd.

Olion yr Oes Haearn

Mae olion aneddau ar y Tir Mawr (gair pobl Enlli am Ben LlÅ·n) y gellir eu dyddio yn bendant i’r Oes Haearn. Ceir tystiolaeth fod pobl wedi byw ar Ynys Enlli yn ystod yr Oes Haearn (700C.C. ­ 43 O.C) gan fod safleoedd cyffelyb gydag olion adeliadau crynion a phetryal ar ochr y mynydd (uwchben Cristin) i’w gweld ar y Tir Mawr. Ceir nifer o gloddiau a fyddai’n waelodion i waliau’r cytiau a chredir y byddent wedi’u toi’n bigyrnaidd. Dewiswyd mannau cysgodol i godi’r cytiau gyda’u mynedfeydd yn wynebu’r de­ddwyrain. Gwnaed peth cloddio yn 1982 ar olion adeiladau petryal wedi’u grwpio yng ngogledd yr ynys ond ni chynigiwyd dyddiadau pendant iddynt.

​

Gall rhain ddyddio’n ôl i gyfnod y dystiolaeth gallestr. Ceir tystiolaeth yn yr un fan fod adeiladau canoloesol a diweddarach yma.

​

Darllen Pellach – ‘Caernarvonshire Volume III West’ (RCAHM) Tud. 20

­ ‘Enlli’ (R Gerallt Jones a Christopher J Arnold) Tud. 78­87

Rhif ffon
07904265604
Phone number
07904265604

Rhif Elusen 507153

Charity Number 507153

​

Polisi Preifatrwydd / Privacy Policy

Dilynwch ni
Follow us
  • Twitter - White Circle
  • White Facebook Icon
  • White Instagram Icon

© 2025 Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

© 2025 Bardsey Island Trust

 

Gyda diolch i Ben Porter, Steve Porter a BESIDE am yr hawl i ddefnyddio eu luniau.

​

Llun o'r awyr gan Myles Jenks

Llun astro gan Steve Porter

With thanks to Ben Porter Wildlife Photography, Steve Porter and BESIDE for kind use of images.

 

Aerial image by Myles Jenks

Astro image by Steve Porter

bottom of page