Newyddion
Datganiad o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli 20.06.2024​
Bu digwyddiad angheuol ar Ynys Enlli ar y 19eg o Fehefin. Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn cydymdeimlo'n ddiffuant â ffrindiau a theulu sydd wedi eu heffeithio.
​
Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda thrigolion lleol a’r awdurdodau ar hyn o bryd. Hoffai'r Ymddiriedolaeth ddiolch i bawb fu'n ymwneud â'r digwyddiad gan gynnwys Gwylwyr y Glannau, yr Ambiwlans Awyr, Criw'r Bad Achub a Heddlu Gogledd Cymru.
Wardeniaid Llety 2024​
Croeso cynnes mawr i Lois ac Aron sydd wedi cychwyn ei swyddi newydd fel Wardeniaid Llety i Enlli am 2024. Rydym yn gobeithio gwnewch chi fwynhau'r antur i ddod.
Holiadur Ymgysylltu Ynys Enlli
​
Oes gennych funud i'n helpu drwy cwblhau'r holiadur yma? Dewisiwch "Cymraeg" o'r blwch at y dde/top. Diolch yn fawr i chi!
​
Chwefror 2024 - Cyfleoedd Artistiaid Preswyl
Bydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn cynnig cyfleoedd i Artistiaid Preswyl weithio yn Enlli yn ystod gwanwyn a haf 2024. Rydym yn chwilio am artistiaid profiadol a rhai sy’n datblygu o unrhyw ddisgyblaeth artistig sydd â chysylltiad efo Gwynedd, gogledd Cymru. Rhaid i’r gwaith ymateb i’r iaith Gymraeg, diwylliant, ecoleg, amgylchedd a threftadaeth hanesyddol Gwynedd neu Ynys Enlli. Bydd yr artistiaid a ddewisir yn cael eu gwahodd i dreulio hyd at 4 wythnos ar yr ynys, mewn llety hunan-arlwyo a stiwdio.
​
DYDDIAD CAU 29 Chwefror 2024. (wedi cau)
​
I ymgeisio, neu os oes gennych gwestiynau cyn gwneud y cais, cysylltwch os gwelwch yn dda efo: celfenlli@gmail.com
​
Ariennir trwy gronfa (SPF) Diwylliant, Cyngor Gwynedd.
​
Chwefror 2024 - Amseroedd Cyffroes i Ddod!
Mae Loteri Treftadaeth wedi darparu grant o £246,000 i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli (YYE) er mwyn ariannu sawl prosiect diddorol dros y tair blynedd nesaf. Mae’r arian yma hefyd wedi galluogi’r YYE i gyflogi Swyddog Prosiect sef Gwenllian Hughes a Rheolwr Adeiladau Cadwraeth sef Owen Rickards. Nod y prosiectau yma yw denu mwy o bobl at yr ynys, a rheini o ddemograffeg wahanol sydd heb gael cyfle i brofi heddwch unigryw Ynys Enlli.
Mae sawl prosiect dan sylw:
1. Brenin Enlli a phrosiectau Diaspora
2. Treftadaeth Hanesyddol, Grefyddol ac Ysbrydol
3. Hanes Llafar a Lluniau
4. Cynhwysiant Cymdeithas a Threftadaeth
5. NoddfaAwyr Dywyll a Phrosiect Gwe-gamera
6. Treftadaeth addysgol ac ymgyslltiol
Mae’r prosiectau yma am gynnwys cydweithrediad sawl sefydliad gan gynnwys ysgolion lleol fel Ysgol Crud y Werin yn Aberdaron. Bydd sawl digwyddiad yn cael eu trefnu dros y tair blynedd nesaf yn seilio ar bob prosiect, a rheini yn cael eu trefnu ar y tir mawr o amgylch Pen LlÅ·n. Prosiect sydd yn peri cyffro yw prosiect Noddfa Awyr Dywyll. Rydym yn edrych ymlaen at drefnu’r digwyddiadau yma sydd am ddathlu ein statws NEWYDD ni!
Nod y Rheolwr Adeiladau Cadwraeth fydd i gynllunio, adfer ac i gynnal treftadaeth adeiladol yr ynys. Mae sawl adeilad cadwedig ar yr ynys, ac maent angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd gan eu bod nhw’n agored i elfennau’r môr.
Dywedodd Jacquie Hughes-Jones (Cadeirydd mewn gofal, Ymddiriedolaeth Ynys Enlli) "Mae hi’n amser cyffrous i Enlli wrth i ni adeiladu ar gryfderau ein pobl a thyfu ein tîm. Y flwyddyn nesaf a’r blynyddoedd i ddilyn, byddwn yn symud yn agosach at ein huchelgais o fod yn ‘arddangosiad o fywyd ynys draddodiadol Cymraeg’ drwy adfer ein hadeiladau a’n adeiladwaith a chysylltu gyda’r gymuned leol ehangach. Rydym yn hynod o ddiolchgar am y grant yma ac edrychwn ymlaen at gydweithio tuag at ddiogelu Ynys Enlli fel bod y cenedlaethau nesaf yn gallu mwynhau, ennill bywoliaeth a rhyfeddu yn ei natur, diwylliant ac ysbrydolrwydd."
Edrychwn ymlaen at groesawu chi i Enlli ac yn gobeithio gwnewch chi fwynhau bod yn rhan o’r prosiectau newydd yma. Mae yna rywbeth i ddiddori pawb ar Ynys Enlli!
Gwenllian Hughes
Owen Rickards
Ionawr 2024 - Adnewyddu'r Storws
Galluogodd cyllid gan yr AHF ar gyfer gwaith cyfalaf a ffioedd, yn ogystal ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol LlÅ·n, Cyngor Gwynedd, yr Ymddiriedolaeth i benodi’r Original Roofing Company i adfer ac atgyweirio to a chragen adeilad Storws. Dechreuodd y gwaith ym mis Mai 2023 a chafodd ei gwblhau erbyn mis Hydref yr un flwyddyn. Darlenwch mwy yma >>>