Y Celfyddydau
Mae artistiaid wedi cael eu denu i Enlli dros y blynyddoedd ac mae'r Ymddiriedolaeth wedi croesawu nifer o artistiaid preswyl i'r ynys. Mae'r rhain yn amrywio o awduron ac arlunwyr i artistiaid cyfryngau cymysg.
Artist Preswyl Ynys Enlli GALW AGORED Ionawr 2025
​
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn falch iawn o gyhoeddi Rhaglen Breswyl Artistiaid 2025 ar Ynys Enlli. Gyda chefnogaeth gan The Ashley Family Foundation, maent yn cynnig chwe chyfle preswyl o bythefnos i artistiaid newydd ac wedi’u sefydlu o Gymru i fyw a gweithio ar Enlli. Mae ceisiadau bellach yn agored ar gyfer preswyliadau yn ystod haf 2025.
Mae Ynys Enlli, sy’n enwog am ei bywyd gwyllt, ei hanes, a’i statws fel Noddfa Awyr Dywyll gyntaf Ewrop, yn cynnig encil heddychlon i artistiaid. Gall cyfranogwyr archwilio disgyblaethau fel ysgrifennu, cerddoriaeth, perfformio, y celfyddydau gweledol, crefft, ac ymchwil a datblygu.
​
Am fanylion llawn y preswyliad CLICIWCH YMA.
Manylion y Preswyliad:
-
Hyd: Pythefnos
-
Ar gyfer: Artistiaid o Gymru
-
Llety: Hunanarlwyo gyda lle stiwdio
-
Cost: £200 yr wythnos (mae bwrsarïau ar gael i artistiaid newydd)
​​
Bydd artistiaid yn cynnal un gweithdy yn ystod eu harhosiad ac yn cael cyfleoedd i arddangos eu gwaith. Croesewir ceisiadau cydweithredol gyda llety ar y cyd ar gael.
GALW AGORED
Mae ceisiadau bellach ar agor. Cliciwch yma i wneud cais.
Os nad oes gennych Gyfrif Google, gwnewch gais YMA.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau wrth wneud cais, cysylltwch â Chydlynydd Artistiaid Preswyl, Theo Shields, theo@enlli.org.
Dyddiad Cau Ceisiadau: Chwefror 16eg 2025 - canol dydd
Caiff y ceisiadau eu hystyried ym mis Chwefror, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod canol ganol mis Mawrth Oherwydd nifer y ceisiadau, nid ydym yn gallu cynnig adborth unigol.
Dyma rai o'r ffotograffwyr, artistiaid ac awduron sydd wedi eu hysbrydoli gan Ynys Enlli.
Ben Porter
Mae Ben Porter wedi byw ar Ynys Enlli ers iddo fod yn 11 oed, hyd at 2018 gyda'i deulu, a oedd yn ffermio'r ynys. Mae Ben wedi bod yn tynnu lluniau bywyd gwyllt yr ynys ers iddo gyrraedd ac wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau ffotograffiaeth cenedlaethol. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth RSPCA 2014 gyda chanmoliaeth uchel ac ymddangosodd ei luniau yn rhestr fer Gwobrau Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Prydain 2014. Mae ei ddelweddau hefyd wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau amrywiol, megis Birdwatch a chylchgronau BBC Wildlife, Natur Cymru ac Adar Prydain.
​
Christine Evans
Mae'r bardd Christine Evans wedi bod yn gysylltiedig â'r ynys ers y chwedegau, pan briododd fab yr olaf o deuluoedd ffermio Enlli. Mae hi a'i theulu yn byw ac yn gweithio ar yr ynys am ran helaeth o'r flwyddyn. Mae hi wedi cyhoeddi pum cyfrol o farddoniaeth: Looking Inland, Falling Back, Cometary Phases, Island of Dark Horses, sydd wedi'i seilio'n llwyr ar ei bywyd ar Ynys Enlli, a Dreaming the Candle.
​
Bydd Christine yn cynnal darlleniadau barddoniaeth ar yr ynys yn ystod yr haf.
Jo Porter
Roedd Jo yn byw a gweithio ar Enlli o 2007-2018 ac mae hi'n mwynhau defnyddio deunyddiau crai megis gwlân a helyg yr ynys i wneud darnau defnyddiol a hardd. Mae Jo yn gwneud rygiau gwlân, basgedi helyg a nifer o eitemau ffelt; mae'r rhain ar gael i'w prynu yn ei siop ar yr ynys neu drwy ei gwefan.
Kim Atkinson
Bu’r arlunydd bywyd gwyllt, Kim Atkinson, yn byw ar yr ynys am saith mlynedd cyntaf ei hoes ac yna unwaith yn rhagor yn yr 1980au a’r 1990au. Mae ei gwaith wedi ei arddangos ar hyd a lled Cymru a Lloegr ac oherwydd ei henw da fel artist cafodd ei gwahodd i weithio mewn llawer rhan o’r byd gan gynnwys Awstralia a Gwlad Pwyl. Mae delweddau nodweddiadol Kim i’w gweld ar lawer o’r nwyddau a werthir yn y siop.
Brenda Chamberlain
Bu’r arlunydd, yr awdur a'r bardd Brenda Chamberlain yn byw yng Ngharreg Fawr rhwng 1947 ac 1962. Roedd yn gyfnod hynod o gynhyrchiol yn ei bywyd. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd Fedal Aur Celf yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Mae modd gweld rhai o’r murluniau a beintiodd ar waliau Carreg hyd y dydd heddiw, ac ysbrydolwyd amryw o’i pheintiadau a’i lluniau gan yr ynys, yn ogystal â’i nofel Tide Race: 1962, yn ei bumed argraffiad - Seren, Mawrth 2019.
​
I lawr lwytho pecyn addysg ar yr artist Brenda Chamberlain, ewch yma.
R S Thomas
Y bardd R S Thomas oedd ficer Aberdaron cyn ei ymddeoliad ym 1978, pan symudodd filltir neu ddwy i lawr y ffordd i bentref y Rhiw. Roedd ganddo gysylltiad agos â’r ynys, yn enwedig yn nyddiau cynnar yr Ymddiriedolaeth.
Dilys Cadwaladr
Treuliodd Dilys Cadwaladr, y ferch gyntaf i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1953 am ei cherdd hir, Y Llen, amryw o flynyddoedd ar Enlli yn yr 1940au, yn ffermio ac yn athrawes i blant yr ynys.
Llenor Preswyl
Gwahoddwyd llenor preswyl iaith Gymraeg i Enlli am y tro cyntaf yn 2002 mewn cydweithrediad â’r Academi Gymreig. Treuliodd Fflur Dafydd, bardd, awdur a cholofnydd, chwech wythnos ar yr ynys yn gweithio ar gasgliad o farddoniaeth a rhyddiaith, yn ogystal â chyfrannu sawl erthygl am ei chyfnod ar yr ynys i gylchgronau a phapurau newydd Cymreig. Ysbrydolwyd dwy nofel, Atyniad a Twenty Thousand Saints, a'i drama ‘Hugo’, a gynhyrchwyd gan Sgript Cymru, gan ei phrofiadau ar yr ynys.
Artistiaid Preswyl
Sefydlwyd y cynllun artist preswyl cyntaf ar y cyd â Chywaith Cymru ac Oriel Mostyn yn 1999.
Mae’r artistiaid yn treulio sawl wythnos ar yr ynys ac yn cynhyrchu gwaith a arddangosir yn ddiweddarach ar y tir mawr.
Ers 2006 mae Carole Shearman wedi gweithio ar Enlli fel artist preswyl tymor hir, ac yn annog ymwelwyr sy'n aros ar Enlli i ymuno â gweithdai er mwyn creu celf sydd wedi ei ysbrydoli gan yr ynys.