Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
Ymddiriedolaeth Ynys Enlli sydd yn berchen ar Ynys Enlli a'i nod yw gwarchod a hyrwyddo'r ynys fel lle o ddiddordeb gwyddonol, hanesyddol ac ysbrydolrwydd arbennig.
​
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon 2023 ar gael yma.
​
Am wybodaeth ein Ymddiriedolwyr, ewch yma.
​
Ym 1978 rhoddwyd ymgyrch ar waith i brynu'r ynys. Y perchennog ar y pryd oedd yr Anrhydeddus Michael Pearson (Arglwydd Cowdray). Arweiniwyd yr ymgyrch gan bobl brwdfrydig ledled Prydain ac fe'i cefnogwyd gan nifer o Gymry amlwg, er enghraifft R S Thomas a William Condry, yn ogystal â'r Eglwys yng Nghymru. Prynwyd yr ynys ym 1979. Elusen ydy'r Ymddiriedolaeth ac mae modd ymaelodi â hi i gefnogi'r ynys.
Amcanion
Mae'r Ymddiriedolaeth yn elusen gofrestredig.
Prif amcanion yr Ymddiriedolaeth yw:
​
-
gwarchod bywyd gwyllt ac ecosystemau bregus yr ynys
-
annog pobl i ymweld â’r ynys fel man o harddwch naturiol a chyrchfan
-
ymgymryd ag astudiaethau gwyddonol a rhaglenni addysg
-
gwarchod yr adeiladau a’r safleoedd archeolegol
-
amaethu er budd cynefinoedd amrywiol yr ynys.
Mae Cyngor yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys Cadeirydd ac amryw o ymddiriedolwyr. Mae’r Cyngor yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn.
Noddwyr
Noddwyr yr Ymddiriedolaeth yw Bryn Terfel a Peter Greenaway.
Staff
Emyr Glyn Owen a
Mari Huws
Wardeniaid yr Ynys
Swyddog Gweinyddol
Menna Jones
Rheolwr Datblygu
Aron Llwyd a Lois Roberts
Wardeniaid Llety tymhorol
Owen Rickards
Rheolwr Cadwraeth Adeiladau
Gwenllian Hughes
Swyddog Prosiectau
Theo Sheilds
Cydlynydd Artistiaid Preswyl
Diolchiadau am Gefnogaeth
Cefnogir yr Ymddiriedolaeth gan nifer o ymddiriedolaethau, sefydliadau a chyrff cenedlaethol. Rydym yn ddiolchgar iawn i gefnogaeth barhaol gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri, Cronfa SPF Diwylliand Cyngor Gwynedd, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Cronfa Treftadaeth Bensaernïol, Pantyfedwen, WCVA, AHNE LlÅ·n a Chymunedau Mentrus Llywodraeth y DU. (2022)