top of page

Ymweld

Mae Ynys Enlli yn agored o fis Mawrth hyd at fis Hydref. Mae'n bosib ymweld am y dydd neu aros am yr wythnos yn nhai yr Ymddiriedolaeth. 

Ymweld am y dydd

Colin Evans,  Mordaith LlÅ·n, sy'n gyfrifol am y tripiau dydd i Enlli. Maen nhw'n digwydd yn rheolaidd drwy'r tymor os yw'r tywydd yn caniatáu. 

​

Fel arfer, cewch rhwng 3 a 4 awr ar yr ynys; digon o amser i ymweld â phrif nodweddion a thirnodau'r ynys a mwynhau paned yn y caffi. 

​

Mae Enlli yn fferm, felly mi fydd gwartheg a defaid ger y tai a'r llwybrau. 

​

Ni chaniateir cŵn. 

​

Archebu gwyliau ar Enlli

Unwaith y byddwch wedi bod ar eich gwyliau cyntaf ar Enlli, mae'n debyg y byddwch eisiau dychwelyd dro ar ôl tro.

 

Mae nifer o dai ar gael ar gyfer llety gwyliau gyda phrisiau yn amrywio yn ôl maint y tÅ· a'r tymor.

 

Mae deg tÅ· hunan-ddarpar yn cael eu gosod gan yr Ymddiriedolaeth:

  • Tri ffermdy o faint sylweddol ar wahân

  • Tri ffermdy o faint sylweddol yn rhan o bâr

  • Tri beudy wedi eu newid yn llety

  • Un bwthyn croglofft traddodiadol gwyngalchog

​

Mae'r tai wedi eu cynnal mewn dull traddodiadol, felly nid oes golau trydan ynddynt. Mae gan bob tÅ· bopty a hob nwy.

​

Mae gan y rhan fwyaf o'r tai oergelloedd solar.

​

​Nid oes cae gwersylla na chyfleusterau gwersylla ar Ynys Enlli, mae llety ar gael mewn tai yn unig.

​

Am fwy o wybodaeth am archebu gwyliau ar Enlli cliciwch yma. 

Hedfan Drôn

Nid yw Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn caniatáu hedfan 'dron' gan unigolion unman ar yr ynys. Am fwy o wybodaeth, neu os ydych yn chwilio am ganiatâd i hedfan drôn am reswm gwyddonol, monitor neu ganiatâd ffilmio ddarllenwch Bolisi Drôn Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. 

Rhif ffon
07904265604
Phone number
07904265604

Rhif Elusen 507153

Charity Number 507153

​

Polisi Preifatrwydd / Privacy Policy

Dilynwch ni
Follow us
  • Twitter - White Circle
  • White Facebook Icon
  • White Instagram Icon

© 2024 Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

© 2024 Bardsey Island Trust

 

Gyda diolch i Ben Porter, Steve Porter a BESIDE am yr hawl i ddefnyddio eu luniau.

​

Llun o'r awyr gan Myles Jenks

Llun astro gan Steve Porter

With thanks to Ben Porter Wildlife Photography, Steve Porter and BESIDE for kind use of images.

 

Aerial image by Myles Jenks

Astro image by Steve Porter

bottom of page